Yr Hwiangerddi
Edwards, Owen Morgan, Sir, 1858-1920
Welsh
We will print you a perfectly bound paperback of your selected title and send it to you at your nominated address
Below is a summary of Yr Hwiangerddi
YR HWIANGERDDI
RHAGYMADRODD.
Ambell orig daw hen hwiangerdd, fel su melodaidd o gartref pell ahoff, i’r meddwl. Daw un arall ar ei hol, ac un arall,—achyda hwy daw adgofion cyntaf bore oes. Daw’r llais mwynafa glywsom erioed i’n clust yn ol, drwy stormydd blynyddoedd maith;daw cof am ddeffro a sylwi pan oedd popeth yn newydd a rhyfedd. A daw ymholi ond odid. Beth yw tarddle swyn yr hen gerddi hwiansyml hyn? Pa nifer ohonynt fedraf? Pa nifer sydd ohonyntyn llenyddiaeth Cymru? A ydynt yn llenyddiaeth? Beth fueu dylanwad ar fy mywyd? A adawsant ryw nod ar lenyddiaeth Cymru?
O ble y daethant? Y mae iddynt ddau darddiad. Yn un peth,—ymaent yn adlais o ryw hen bennill genid gyda’r delyn. Cofidy rhannau mwyaf melodaidd, rhyw seiniau fynnai aros yn y glust, ganfam neu forwyn, a byddent yn llais i lawenydd y galon wrth suo’rplentyn i gwsg. A ffynhonnell arall,—yr oedd y fam yn creucerddi hwian, nid i wneyd i’r plentyn gysgu, ond i’w gadw’nddiddig pan ar ddihun. Ac y mae cof gwlad wedi trysori ymgaisy mamau mwyaf athrylithgar.
Ar ei fysedd y sylwa plentyn i ddechreu. Hwy ddefnyddia’rfam yn deganau cyntaf. Rhoddir enwau arnynt,—Modryb ’yMawd, Bys yr uwd, Hirfys, Cwtfys, Bys bach, neu ryw enwau ereill. Gwneir iddynt chware â’u gilydd; llechant yng nghysgod eugilydd, siaradant â’u gilydd; ant gyda’u gilydd ichware, neu i hel gwlan, neu i ladd defaid i’r mynydd. Yroedd yr olaf yn fater crogi yr adeg honno, ac felly yr oedd y chwareyn un pur gyffrous. Yr oedd i bob bys gymeriad hefyd; bys yr uwdoedd y cynlluniwr, yr hirfys oedd y gweithiwr cryf eofn, y cwtfys oeddy beirniad ofnus, a’r bys bach, druan, oedd yn gorfod dilyn ylleill neu gario dŵr. Yn llenyddiaeth gyntaf plentyn, y byseddyw’r actors yn y ddrama.
Wedi’r bysedd, y traed oedd bwysicaf. Eid trwy yr unchware gyda bysedd y traed drachefn. A difyr iawn oedd pedoli,curo gwadnau’r traed bob yn ail, a phedoli dan ganu.
Nodwedd bennaf plentyn iach, effro yw, nas gall fod eiliad yn llonydd. Mae pob gewyn ynddo ar fynd o hyd. Ac y mae mynd yn yr hen hwiangerddi. Gorchest arwrol gyntaf plentyn yw cael ei ddawnsio’n wyllt ary lin. “Gyrru i Gaer” yw anturiaeth fawr gyntaf dychymygy rhan fwyaf o blant Cymru. Ac y mae afiaeth mawr i fod ar y diwedd,i ddynodi rhyw drychineb ysmala,—dod adre wedi priodi, boddi yny potes, neu dorri’r pynnaid llestri’n deilchion. Mae’r coesau a’r breichiau bychain i fynd ar eu gwylltaf,ac y mae edyn mân dychymyg y plentyn yn chware’n wyllt hefyd.
Yr un cerddi hwian, mewn llais distawach, dwysach, a suai y plentyni gwsg. Ai’r llong i ffwrdd yn ddistaw, carlamai’rcel bach yn esmwyth, doi’r nos dros furiau Caer.
A yw’r hwiangerddi’n foddion addysg? Hwy rydd addysgoreu plentyndod. Am genedlaethau’n ol, ceisid dysgu plantyn yr ysgol o chwith. Ceisid eu cadw’n llonydd, a hwythau’nllawn awydd symud. Ceisid eu cadw’n ddistaw, a hwythau’nllawn awydd parablu. Dofi, distewi, disgyblu oedd o hyd. Erbyn hyn deallir egwyddorion dysgu plentyn yn well. Gellid rhoddirhestr hir o athronyddion dysg plant, a dangos fel y gwelsant, o uni un yn raddol, wir ddull dysgu plant. A’r dull hwnnw yw,—dull yr hwiangerddi. Dysgir y plentyn i astudio’i fysedd. Ca fynd ar drot ac ar garlam yr adeg y mynno. Ac ymhob cerdd,daw rhyw agwedd darawiadol ar y natur ddynol i’r golwg. Ei siglo’n brysur ar y glin i swn rhyw hen gerdd hwian,—dynafaban ar ben gwir Iwybr ei addysg. Ni fyddaf yn credu dim ddwedyr athronwyr am addysg babanod os na fedrir ei brofi o’r hwiangerddi. Ynddynt hwy ceir llais greddf mamau’r oesoedd; o welediad clircariad y daethant, ac o afiaeth llawenydd iach.
A yw’r cerddi hwian yn llenyddiaeth? Ydynt, yn ddiameu. Y mae iddynt le mor bwysig mewn llenyddiaeth ag sydd i’r plentynyn hanes dyn. Y mae llenyddiaeth cenedl yn dibynnu, i raddau mawr,ar ei hwiangerddi. Os mynnech ddeall nodweddion cenedl, y dullchwilio hawddaf a chyrfymaf a sicraf yw hwn,—darllennwch ei cherddihwian. Os ydynt yn greulon ac anonest eu hysbryd, yn arw a chras,yn fawlyd a dichwaeth, rhaid i chwi ddarllen hanes cenedl yn meddu yrun nodweddion. Os ydynt yn felodaidd a thyner, a’r llawenyddafteithus yn ddiniwed, cewch genedl a’i llenyddiaeth yn ddiwyllediga’i hanes yn glir oddiwrth waed gwirion. Nis gall y Cymrobeidio bod a chlust at felodi, wedi clywed y gair “pedoli”bron yn gyntaf un, a hwn yn gyntaf pennill,—
“Mae gen i ebol melyn,
Yn codi’nbedair oed;
A phedair pedol arian,
O danei bedwar troed.”
Disgwylir i mi ddweyd, mae’n ddiau gennyf, ymhle y cefais yrholl gerddi hwian hyn. Gwaith araf oedd eu cael, bum yn eu casgluam dros ugain mlynedd. Ychydig genir yn yr un ardal, daw y rhaihyn bron o bob ardal yng Nghymru. Cefais hwy oddiwrth rai ugeiniauo gyfeillion caredig, yn enwedig pan oeddwn yn olygydd Cymru’rPlant. A chefais un fantais fawr yng nghwrs fy addysg,—nidoes odid blentyn yng Nghymru y canwyd mwy o hwiangerddi iddo.
Hyd y gwn i; Ceiriog ddechreuodd gasglu hwiangerddi Cymru, yn yrArweinydd, yn 1856 ac 1857. Condemnid y golygydd, Tegai,am gyhoeddi pethau mor blentynaidd. Ond daeth yr hanesydd dysgedigAb Ithel, oedd wedi cyhoeddi’r Gododin ac yn paratoi’rAnnales Cambriae y Brut y Tywysogion i’r wasg, i’wamddiffyn yn bybyr. Cawr o ddyn oedd Ab Ithel; y mae rhai o wyrgalluocaf a mwyaf dysgedig Cymru, yn ogystal a phlant ysgol, wedi’mhelpu innau i wneyd y casgliad hwn. Cyhoeddwyd casgliad Ceiriogwedi hyn yn “Oriau’r Haf.” Nid oes ynddo ddimo gerddi hwian y De. Cyhoeddodd Cadrawd rai o gerddi hwian Morgannwgyn ei “History of Llangynwyd Parish” yn 1887. “Ynddiweddarach cyhoeddwyd casgliad gyda darluniau prydferth yng Nghonwy,{0a} a chasgliad
Back